Yn dilyn ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i ddatblygu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiwn Cymdeithasol yng Nghymru, mae’n bleser gennym eich gwahodd i ddigwyddiad lansio ar-lein.
Cynhelir y digwyddiad rhithiol a drefnwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ysgol Ymchwil Presgripsiwn Cymdeithasol Cymru, Prifysgol De Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ddydd Iau 7ed Rhagfyr 2023, 10:00 – 13:00.
Bydd y digwyddiad hwn yn: · Cyflwyno’r Fframwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Presgripsiwn Cymdeithasol yng Nghymru · Rhannu datblygiadau ym maes presgripsiwn cymdeithasol fel rhan o’r Fframwaith Cenedlaethol gan gynnwys, Geirfa Termau ar gyfer Presgripsiwn Cymdeithasol a Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer Ymarferwyr Presgripsiwn Cymdeithasol yng Nghymru · Gosod y camau nesaf ar gyfer y Fframwaith Cenedlaethol · Rhannu profiadau o bresgripsiwn cymdeithasol ledled Cymru · Clywed sut mae presgripsiwn cymdeithasol wedi cael ei weithredu yn fyd-eang a gwrando ar farn panel rhyngwladol o arbenigwyr ar y Fframwaith Cenedlaethol.
Clicwch ar y ddolen isod i gofrestru – dylai hyn gymryd llai na 30 eiliad!
Dolen gofrestru – Digwyddiad presgripsiynu cymdeithasol | Social Prescribing Event Tickets, Thu 7 Dec 2023 at 10:00 | Eventbrite
|
Rhannwch y gwahoddiad hwn ag unrhyw gydweithwyr y teimlwch y gallai fod ganddynt ddiddordeb mewn mynychu’r digwyddiad hwn.